Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a
fideogynadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 9 Tachwedd 2022
Amser:
09.30
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Marc Wyn Jones
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
SeneddHinsawdd@senedd.cymru
------
Rhag-gyfarfod preifat (9.15-9.30)
Cyfarfod cyhoeddus (09.30-12.15)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
(09.30)
2 Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) – Trafodion Cyfnod 2
(09.30-12.15)
Julie James AS - y Gweinidog Newid Hinsawdd
Nick Howard, Uwch Gyfreithiwr y Llywodraeth – Llywodraeth Cymru
Richard Clark, Pennaeth Ansawdd a Rheoliadau’r Amgylchedd Lleol – Llywodraeth Cymru
Hefin Gill, Cyfreithiwr y Llywodraeth – Llywodraeth Cymru
Bydd y dogfennau sy'n berthnasol i'r trafodion Cyfnod 2 ar gael ar dudalen we’r Bil.
Cytunodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith ar 20 Hydref 2022, o dan Reol Sefydlog 26.21, y byddai’r drefn ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2 fel a ganlyn:
Adran 1; Adran 2; Atodlen 1; Adrannau 3-23; Teitl Hir
Rhestr o Welliannau Wedi'u Didoli
3 Papurau i'w nodi
(12.15)
3.1 Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)
(Tudalennau 1 - 7)
Dogfennau atodol:
Ymateb gan y Gweinidog Newid Hinsawdd i adroddiad y Pwyllgor ar Fil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)
3.2 Strategaeth Ddrafft ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd a Gweithredu ar Newid Hinsawdd (2022-2026)
(Tudalennau 8 - 9)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Strategaeth Ddrafft ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd a Gweithredu ar Newid Hinsawdd (2022-2026)
3.3 Bil Prisiau Ynni y DU
(Tudalennau 10 - 11)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes mewn perthynas â Bil Prisiau Ynni y DU
3.4 Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
(Tudalennau 12 - 15)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan Gadeirydd Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
3.5 Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
(Tudalennau 16 - 17)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan Gadeirydd Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
3.6 Datgarboneiddio'r sector cyhoeddus
(Tudalennau 18 - 19)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan Bennaeth Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gwahoddiad y Pwyllgor i roi tystiolaeth i'w ymchwiliad i ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus (Saesneg yn unig)
3.7 Gorchymyn Newid yn yr Hinsawdd (Nwyon Tŷ Gwydr wedi eu Targedu) 2022
(Tudalen 20)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â’r Gorchymyn Newid yn yr Hinsawdd (Nwyon Tŷ Gwydr wedi eu Targedu) 2022
3.8 Y Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) (Rhif. 3) 2022
(Tudalennau 21 - 22)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd mewn perthynas â’r Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) (Rhif 3) 2022
3.9 Y Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiadol (Iechyd a Diogelwch) (Diwygio) 2022
(Tudalennau 23 - 24)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd mewn perthynas â Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiaddol (Iechyd a Diogelwch) (Diwygio) 2022
3.10 Llywodraeth Cymru yn prynu Fferm Gilestone
(Tudalen 25)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan Grŵp Cadwraeth Dyffryn Wysg at Weinidog yr Economi mewn perthynas â Llywodraeth Cymru yn prynu Fferm Gilestone (Saesneg yn unig)
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw
(12.15)
Cyfarfod preifat (12.15-12.30)
5 Ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
(Tudalennau 26 - 44)
Dogfennau atodol:
Nodyn cyfreithiol – Y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (Saesneg yn
unig)
Papur - Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro
ac Adfywio (Saesneg yn unig)